Cyn Uwch Reolwr Prosiect ar gyfer y prosiect Senarios COVID-19
Mae Inès Hassan yn Uwch Ymchwilydd Polisi yn y Rhaglen Llywodraethu Iechyd Byd-eang yn Sefydliad Usher, Prifysgol Caeredin.
Mae ganddi Ddoethuriaeth Peirianneg (EngD) mewn Peirianneg Biocemegol o Goleg Prifysgol Llundain.
Mae hi wedi treulio mwy na deng mlynedd yn cefnogi'r diwydiant fferyllol ym maes gweithgynhyrchu, cyflenwi a strategaeth masnacheiddio. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, symudodd i fyd Polisi Iechyd Byd-eang ac mae wedi cefnogi sefydliadau fel Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) gyda mentrau cryfhau systemau rheoleiddio.
Yn fwyaf diweddar mae hi wedi bod yn gweithio gyda Grŵp Cynghori COVID-19 yr Alban a grŵp Gwerthuso Data a Dysgu ar gyfer Epidemigau Feirysol (DELVE) y Gymdeithas Frenhinol i gynhyrchu ymchwil polisi cyflym ac argymhellion allweddol ar gyfer y DU a Llywodraethau datganoledig. Bu hefyd yn gweithio gyda’r Panel Annibynnol ar gyfer Paratoi ac Ymateb i Pandemig (IPPPR) i asesu ymateb WHO i achosion yn y gorffennol a’r pandemig COVID-19.